Agor y ffynhonnau melus
'N tarddu i maes o'r Graig y sydd;
Colofn dân rho'r nos i'm harwain,
A rho golofn niwl y dydd;
Rho i mi fanna,
Fel na bwyf yn llwfwrhau.
Pan yn troedio glan Iorddonen,
Par i'm hofnau suddo i gyd;
Dwg fi drwy y tonnau geirwon
Draw i Ganaan - gartref clyd:
Mawl diderfyn.
Fydd i'th enw byth am hyn.
Ymddiriedaf yn dy allu,
Mawr yw'r gwaith a wne'st erioed:
Ti ge'st angeu, ti ge'st uffern,
Ti ge'st Satan dan dy droed;
Pen Calfaria,
Nac aed hwnw byth o'm côf.
William Williams 1717-91Caniadau Y Cysegr 1855 [Mesur: 878747] gwelir: Arglwydd arwain trwy'r anialwch Cymer Iesu fi fel 'r ydwyf Gwaed (d)y groes sy'n codi (i) fyny Iesu ti yw'm hunig Geidwad Pan fwy'n myned drwy Iorddonen Ymddiriedaf ynot Iesu |
Open the sweet fountains
Which are flowing out of the Rock;
A column of fire give by night to lead me,
And give a column of fog by day.
Give me manna
Thus shall I not faint.
When I walk the bank of Jordan,
Cause all my fears to sink;
Take me through the rocky waves
Over to Canaan - a cosy home:
Unending praise.
Will be to your name for this.
I trust in thy power,
Great is the work thou didst always do:
Thou didst get death, thou didst get hell,
Thou didst get Satan under thy feet;
The summit of Calvary,
This shall never go from my memory.
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|